Rhif y ddeiseb: P-06-1257

Teitl y ddeiseb: Lleihau’r dreth gyngor ar gyfer ystadau preifat

Testun y ddeiseb:

 

Dylai fod yn ofynnol i gynghorau leihau'r dreth gyngor ar gyfer eiddo sy’n rhan o ystadau "preifat", gan fod yr holl gostau cynnal a chadw ar gyfer yr ardaloedd cymunedol yn cael eu talu gan berchnogion yr eiddo, a all fod yn lesddeiliaid neu’n rhydd-ddeiliaid.

Nid yw'r cynghorau lleol yn derbyn cyfrifoldeb am gostau cynnal a chadw mewn ardaloedd cymunedol ar ystadau tai newydd. Mae hyn yn arwain datblygwr i benodi cwmnïau rheoli i'w wneud am gost na chaiff y rhydd-ddeiliaid ei thrafod na'i herio. Felly, mae'r gost o gynnal yr ardaloedd cymunedol hyn ar ystadau tai newydd yn cael ei hysgwyddo fwyfwy gan berchnogion tai. Fodd bynnag, nid yw'r perchnogion tai hyn yn cael unrhyw ostyngiad cyfatebol ym miliau’r dreth gyngor.

 

 


1.        Cefndir

Lle nad yw'r awdurdod lleol wedi mabwysiadu ardaloedd cyffredin ar gyfer ystadau tai – er enghraifft, ffyrdd, mannau agored a chyfleusterau chwarae – ceir rhoi trefniadau preifat ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal. Pan fydd hyn yn  digwydd, bydd fel arfer yn arwain at godi tâl ar breswylwyr gan gwmni rheoli neu asiant, i dalu am gynnal a chadw'r ardaloedd hynny.

Bydd lesddeiliaid yn talu'r ffioedd hyn trwy eu taliad gwasanaeth, a bydd rhydd-ddeiliaid yn ddarostyngedig i dâl rhent ystâd. Gall tenantiaid dalu'r costau hyn trwy eu rhent neu daliad gwasanaeth.

2.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i “sicrhau bod taliadau ystâd am fannau agored cyhoeddus a chyfleusterau cyhoeddus yn cael eu talu mewn ffordd sy’n deg.” 

Bu Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ynghylch taliadau rheoli ystadau yn 2020. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i’r ymgynghoriad ar 30 Tachwedd 2020, ynghyd â datganiad ysgrifenedig i'r Senedd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd. O ran y camau nesaf i Lywodraeth Cymru, mae crynodeb yr ymgynghoriad yn nodi fel a ganlyn: 

Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a ddarparwyd nad yw taliadau ystadau yn gweithio'n effeithiol i bawb o dan y trefniadau presennol. Felly, bydd y Gweinidog yn defnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd i ystyried y meysydd lle mae angen newidiadau a'r opsiynau posibl a all fod ar gael er mwyn rhoi'r newidiadau hynny ar waith.  

Megis dechrau proses o newid yw'r cam hwn, a chaiff unrhyw newidiadau a gynigir neu a ystyrir eu datblygu ar y cyd â'r diwydiant. Byddai unrhyw newidiadau hefyd yn destun ymgynghoriad ffurfiol arall a phroses o ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnig cyfle arall i roi adborth.  

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi ysgrifennu at y Cadeirydd yn cynnig sylwadau ar y ddeiseb hon. Mae'r Gweinidog yn nodi nad yw’r dreth gyngor yn uniongyrchol gysylltiedig â derbyn gwasanaethau penodol, ond yn hytrach mae'n darparu cyllid cyffredinol ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus.

Mae'r Gweinidog hefyd yn nodi yn ei llythyr bod gwaith ar y gweill i gyflawni nifer o gamau i fynd i'r afael ag achosion a symptomau ffioedd ystadau sy'n cael eu gosod ar ddeiliaid tai, a dywed fod hyn yn cynnwys deddfu i alluogi rhydd-ddeiliaid i herio rhesymoldeb ffioedd ystadau (ar yr un sail ag y gall lesddeiliaid ei wneud ar hyn o bryd), ynghyd â rheoleiddio cwmnïau rheoli eiddo preswyl.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Codwyd mater o ran taliadau ystâd ar sawl achlysur yn y Senedd. 

Ar 14 Mawrth 2018, bu'r Senedd yn trafod Cynnig Deddfwriaethol yr Aelodau ar Gwmnïau Rheoli Ystadau. Roedd y cynnig – gan Hefin David AS – yn un am Fil ar gyfer rheoleiddio cwmnïau rheoli ystadau. Roedd y Bil arfaethedig i gynnwys, ymhlith pethau eraill, rhoi hawliau cyfatebol i rydd-ddeiliaid â’r rheini sydd gan lesddeiliaid, i herio rhesymoldeb taliadau. Wrth ymateb i'r ddadl, ymrwymodd y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd, Rebecca Evans, i sefydlu'r grŵp gorchwyl a gorffen i archwilio'r mater hwn, ymhlith eraill. Sefydlwyd y grŵp hwnnw ac yn dilyn hynny, cyhoeddodd ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2019.  

Yn dilyn etholiad 2021, ar 15 Mehefin 2021, codwyd y mater ynghylch taliadau ystâd eto yn y Senedd gan Hefin David AS. Gofynnodd am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y mater. Wrth ymateb ar ran y Llywodraeth, dywedodd Lesley Griffiths AS “…mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael cyn gwneud unrhyw benderfyniadau eraill.” 

Ym mis Tachwedd 2021, ystyriodd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i roi i rydd-ddeiliaid mewn eiddo sydd newydd ei adeiladu yr hawl i reoli eu hystâd eu hunain. Ar ôl cael gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn trafod pryderon y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb. Roedd y Gweinidog wedi nodi yn y llythyr hwnnw fod Llywodraeth Cymru yn ystyried nifer o gamau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol a'i bod hefyd yn cydweithredu â Llywodraeth y DU ar y mater.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.